Am y Cwmni

Croeso i Gwmni Eleanor Davies Optometrydd Cyf, darparwyr gofal llygaid i bobl tref Dolgellau, ac i Feirionnydd. Cwmni annibynnol gafodd ei sefydlu yma dros ugain mlynedd yn ôl dan yr enw Partridge Opticians ydy hwn. Rydyn ni’n dîm o bobl sy’n ymdrechu i ddarparu gofal ardderchog i’r llygaid a gwasanaeth da i bawb.

Cynigiwn ystod o wasanaethau – o archwiliad llygaid arferol a gofalu am lensys cyffwrdd i wasanaeth golwg gwan ac archwiliad llygaid ar frys fel rhan o gynllun Gofal Llygaid Cymru.