Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru
Mae Eleanor Davies Optometrydd yn falch iawn o fod yn Optometrydd a gafodd ei hachredu gan Wasanaethau Gofal Llygaid Cymru.
Bwriad Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru ydy anelu at leihau’r nifer o bobl yng Nghymru sy’n colli eu golwg.
Gan ein bod yn gwmni sydd wedi’i achredu, gallwn gynnig archwiliadau rhad ac am ddim dan Wasanaeth Gofal Iechyd Cymru i bobl sy’n byw yng Nghymru ac sydd â’u meddyg teulu yng Nghymru, dan yr amodau sy’n dilyn:
- Os oes gennych broblem gyda’ch llygaid sydd angen sylw’n sydyn
- Os mai gydag un llygad y gallwch weld
- Os oes gennych nam ar eich clyw a’ch bod yn hollol fyddar
- Os ydych chi’n dioddef o retinitis pigmentosa
- Os ydych o hil Du neu Asiaidd
- Os ydych chi mewn perygl o fod â chyflwr ar eich llygaid am eich bod yn dad, mam, brawd, chwaer neu’n blentyn genynnol i rywun sydd ag anhwylder llygaid y gellid ei etifeddu, fel Glawcoma, Diabetes Mellitus, Dirywiad y Maciwla cysylltiedig ag oed, neu Retinitis Pigmentosa
- Eich bod wedi gweld eich meddyg teulu a’u bod eisiau ichi weld optometrydd
Rydyn ni hefyd yn cynnig Asesiadau Golwg Gwan fel rhan o Wasanaeth Golwg Gwan Cymru (dolen i fersiwn Gymraeg o dudalen newydd Low Vision) sydd ar gael i unrhyw glaf a chanddo nam ar ei olwg.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Gofal Llygaid Cymru yma

